Ynglŷn â Ni>Yr Uned Gymraeg>Llais y Myfyriwr

Llais y Myfyriwr

​​

Swyddog Cymraeg yr Undeb Myfyrwyr

Mae Swyddog Cymraeg yr Undeb yn gyfrifol am gynrychioli myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ym Met Caerdydd fel rhan o strwythur yr Undeb a'r Brifysgol lle y bo'n briodol.

Mae'r Swyddog Cymraeg yn aelod o Bwyllgor Defnyddio'r Gymraeg y Brifysgol a Phwyllgor Cangen y Coleg Cymraeg. Mae'r swyddog yn cyfrannu at waith y ddau bwyllgor hyn gan sicrhau bod llais y myfriwr cyfrwng Cymraeg  yn ganolog i weithrediadau'r Brifysgol.


Dewch i wybod mwy am Swyddog Cymraeg yr Undeb, Bo Leung.

C: O ble wyt ti'n dod?
O Gaernarfon yng ngogledd Cymru. 
 
C: Pa gwrs wyt ti'n astudio?
Addysg Gynradd. 
 
C: Pam rwyt yn gwneud y rôl?
Dw i am wneud y rôl hon i fod yn rhan o dîm sy’n rhoi cyfleoedd newydd a phrofiadau newydd i fyfyrwyr Cymraeg ar draws y ddau gampws ym Met Caerdydd. 

C: Beth wyt ti eisiau ei gyflawni dros y flwyddyn?
Rwyf yma i sicrhau bod y lleisiau Cymraeg i gyd yn cael eu clywed. I fi mae’n hollbwysig i gadw’n sgiliau yn yr iaith Gymraeg am eu bod mor fuddiol yn y byd gwaith a’r byd sy’n ein disgwyl ar ôl gorffen yn y Brifysgol. 

Rwy’n frwdfrydig ag yn barod i gefnogi unrhyw beth sydd yn ymwneud â’r iaith, boed hynny efo pobl sydd â chefndir o siarad Cymraeg neu beidio. Rwy’n gobeithio creu profiadau a chyfleoedd newydd drwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau eu bod yn brofiadau buddiol a phositif i bawb.

Dim ond unwaith mae pobl yn dechrau yn y Brifysgol, felly rwy’n gobeithio helpu i wneud y profiad yna mor bositif a chofiadwy ag sy’n bosib.